Text Box: Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
 Llywodraeth Cymru
 
 Parthed: Cyllid Cymru / Banc Datblygu Cymru

15 Tachwedd 2017

Annwyl Ken,

 

Ar 25 Hydref 2017, croesawodd y Pwyllgor y corff Cyllid Cymru ar gyfer craffu ar ei adroddiad blynyddol a’i waith cynllunio ar gyfer y dyfodol fel Banc Datblygu Cymru.

 

Rydym yn ddiolchgar i Giles Thorley a’i dîm am fod yn bresennol yn y sesiwn, ac am ddarparu gwybodaeth ychwanegol wrth ymateb i gwestiynau nad oedd modd ymdrin â nhw yn y cyfarfod.

Tryloywder

Mewn tystiolaeth a roddwyd i’r Pwyllgor cyn ei waith craffu, dywedodd Cyllid Cymru / Banc Datblygu Cymru ei fod wedi rhagori ar ei dargedau. Ond nid oedd yn nodi beth oedd y targedau hynny. Dyma enghraifft syml o sut y gall Banc Datblygu Cymru wella pethau o ran tryloywder ac eglurder yn y dyfodol.

Ddeuddeg mis yn ôl, yn dilyn ein sesiwn graffu, nododd y Pwyllgor:

 

Mewn ymateb i’n cwestiynau ynghylch y colledion a gofnodwyd ar gyfer 2014-15, roeddech yn gallu ein sicrhau nad oedd hyn yn rhoi darlun cywir o wir sefyllfa ariannol y sefydliad.

 

Dywedodd Kevin O’Leary: “I don’t believe the committee should be concerned by that loss… Our accounts are not a good entry in to understanding Finance Wales’ performance.”

 

- Llythyr Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau at Cyllid Cymru

Y llynedd argymhellwyd gennym bod “Cyllid Cymru yn ystyried - wrth gydnabod ei rwymedigaethau adrodd statudol - sut y gall gyflwyno ei gyfrifon blynyddol mewn ffordd sy’n rhoi darlun cliriach o berfformiad y sefydliad ac sy’n galluogi trethdalwyr Cymru i weld a yw eu harian wedi’i fuddsoddi mewn ffordd sy’n arwain at fanteision. Gallai hyn fod yn rhan o’r cyfrifon blynyddol, neu’n rhywbeth ychwanegol.”

Eleni, clywodd y Pwyllgor, er bod y cyfrifon yn dangos "gwarged" o £13 miliwn, nid oedd hwn yn adlewyrchiad cywir o’r wir sefyllfa ychwaith.

Dywedodd Mr O’Leary wrth y Pwyllgor ar 25 Hydref 2017:

 "Last year, I was asked at this committee about the £1 million loss and whether the committee should be concerned about that. I would say similarly about the surplus this year that it isn’t anything really to be celebrated. As you point out, the majority of that is covered by the ERDF cash coming to us for investment. The actual business, if you like—the fund management business and the back-office functions—are basically exactly the same, year-on-year, as they have been for probably the last three or four years, and the overall surplus is probably something like £100,000 on those.

 

Yn nes ymlaen yn y sesiwn, mewn trafodaeth ynghylch tryloywder, nododd Gareth Bullock, y Cadeirydd:

"...  technical accounting actually gets in the way of what I might call the ordinary, day-to-day understanding of what we do."

Mae’r Pwyllgor yn croesawu’r gydnabyddiaeth hon, ac mae’n deall nad yw rheolau cyfrifyddu mewn perthynas â’r cyfrifon blynyddol yn ddewisol. Fodd bynnag, rhaid bod ffordd o gyflwyno a yw’r sefydliad wedi cael blwyddyn lwyddiannus ai peidio.

Argymhelliad 1:

Dylai Cyllid Cymru lunio gwybodaeth ochr yn ochr â’i gyfrifon blynyddol a fyddai’n caniatáu i unrhyw aelod o’r cyhoedd sydd â diddordeb weld a yw’r sefydliad wedi talu ei gostau yn y flwyddyn flaenorol.

 

Cynllun busnes

Mae’r Pwyllgor wedi gofyn o’r blaen i weld y cynllun busnes ar gyfer Banc Datblygu Cymru. Er bod dogfennau amrywiol wedi’u cynhyrchu, nid yw’r cynllun busnes wedi’i gyhoeddi. Awgrymodd Mr Thorley ei fod yn "darllen yn eithaf undonog" ac yn ddogfen dechnegol iawn. Nododd hefyd mai mater i Lywodraeth Cymru oedd ei gyhoeddi ai peidio. Er budd tryloywder, mae’r Pwyllgor yn dal i feddwl y dylid ei gyhoeddi.

Argymhelliad 2: Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi’r cynllun busnes ar gyfer Banc Datblygu Cymru.

 

FW Capital

Mae’r Pwyllgor yn nodi’r llwyddiant y mae Cyllid Cymru wedi’i gael wrth sicrhau arian ychwanegol er mwyn dod i ben yng ngogledd orllewin a gogledd ddwyrain Lloegr. Mae darparu’r gwasanaeth hwn yn dod â ffioedd ar gyfer y sefydliad, ac yn datblygu profiad ymysg staff. Mae ganddo’r potensial hefyd i greu manteision economaidd trawsffiniol yn sgîl y ffaith bod busnesau llwyddiannus yng ngogledd orllewin Lloegr yn defnyddio cadwyni cyflenwi yng Nghymru, neu yn cydweithio â busnesau yng Nghymru.

Mae’r twf yng ngraddfa’r arian a reolir y tu allan i ffiniau Cymru hefyd yn cynyddu’r risg o wrthdaro buddiannau posibl. Mynegodd y Pwyllgor bryderon, wrth i weithgareddau FW Capital dyfu, fod mwy o risg hefyd y bydd buddsoddiadau’n cael eu gwneud mewn cwmnïau a fyddai’n cael effaith andwyol ar Gymru.

Roedd arweinwyr uwch o Gyllid Cymru / Banc Datblygu Cymru yn bendant eu bod yn teimlo bod y buddion yn gorbwyso’r risgiau. Fodd bynnag, nid yw’n anodd dychmygu sefyllfa ddamcaniaethol lle byddai’r gefnogaeth a roddir i fusnes yng Ngogledd Orllewin Lloegr yn ei alluogi i dyfu a ffynnu ar draul busnes cyfatebol yng Nghymru.

Argymhelliad 3: Yn y llythyr cylch gwaith, dylai Ysgrifennydd y Cabinet atgoffa Bwrdd Banc Datblygu Cymru, wrth benderfynu a ddylid ymgymryd â gwaith y tu allan i ffiniau Cymru, rhaid iddo fod yn ymwybodol na fydd yn tanseilio amcan craidd y sefydliad - i gefnogi busnes yng Nghymru.

 

Meysydd ar gyfer eu monitro yn y dyfodol

Nododd y Pwyllgor y dull pragmatig a ddefnyddir o ran adleoli i Wrecsam. Mae manteision clir i hyn o ran parhad, a chadw costau’n isel. Fodd bynnag, mae perygl bob amser bod camau a gaiff eu gohirio yn gamau a allai byth ddigwydd - a bydd y Pwyllgor yn parhau i fonitro beth a pha mor gyflym yw’r cynnydd a wneir tuag at sefydlu Pencadlys effeithiol yn y gogledd.

Mae Banc Datblygu Cymru yn cydnabod mai’r risg fwyaf y mae’n ei wynebu yw nad yw’n codi digon o arian, drwy ei weithgareddau, i hunan-ariannu ei gostau cynnal. Er bod yr arweinwyr yn hyderus y byddent yn gallu gwneud hynny, mae’r Pwyllgor yn nodi mai dyma fydd y prawf allweddol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.

Bydd y Pwyllgor yn trafod y materion hyn eto y flwyddyn nesaf.

Yn gywir

Russell George

Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

cc: Gareth Bullock, Giles Thorley.